Crys-T ar gotwm 100% organig (o dan faner logo safon Fairwear Foundation).
Mae’r crys wedi’i gynhyrchu gan Gymdeithas yr Iaith, Cymdeithas y Cymod a CND Cymru i gofio am y chwalfa yn 1940 pan orfodwyd teuluoedd yr Epynt i adael eu cartrefi er mwyn troi’r ardal yn lle ymarfer ar gyfer y fyddin.
Gallwch ddewis rhwng cynllun gwyn ar grys coch (nid oes llawer o’r crysau coch ar ôl bellach) neu gynllun coch ar grys gwyn.