I nodi chwedeg mlwyddiant y Gymdeithas, cynhaliwyd cystadleuaeth dylunio crys-T. Roeddem yn chwilio am gynllun trawiadol a chyfoes (un ar gyfer oedolion ac un ar gyfer plant) oedd yn adlewyrchu chwe degawd o ymgyrchu, aberthu a brwydr y chwyldro yng Nghymru (a hynny heb ddefnyddio’r rhif 60!).
Enillydd y gystadleuaeth oedd Osian Grifford a dyma gyfle felly i brynu ei grys-T arbennig.
Crys lliw glas golau o gotwm organig (o dan faner logo safon Fairwear Foundation). Dim ond y tri maint lleiaf sydd ar ôl bellach.