Maniffesto 2022: Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg

£0

Mewn stoc

Cymru rydd, Cymru werdd, Cymru Gymraeg
Cymdeithasiaeth i’r 21ain ganrif

Dyma chweched maniffesto Cymdeithas yr Iaith, y ddogfen rydym wedi’i chyhoeddi bob degawd i amlinellu ein gweledigaeth fel mudiad.

Datblygwyd y diweddaraf dros gyfnod o fisoedd mewn trafodaethau gydag aelodau; sylweddolwyd yn ystod y cyfnod hwn y byddai’n rhaid iddo ymateb i’r argyfwng hinsawdd a’i gyswllt â’r Gymraeg. Mae’r ddogfen hon felly’n amlinellu dadansoddiad y Gymdeithas o sefyllfa bresennol y Gymraeg a’n cymunedau, a’n hathroniaeth wleidyddol o gymdeithasiaeth a sut mae hynny’n berthnasol i Gymru heddiw. Mae grymuso ein cymunedau — un o brif egwyddorion cymdeithasiaeth — yn golygu cryfhau ein hiaith a diogelu ein hamgylchedd hefyd, ac mae’r ddogfen yn cynnig syniadau ar gyfer sicrhau Cymru gynaliadwy ymhob ystyr o’r gair.

Mae copïau yn rhad ac am ddim (dim ond talu am gost cludiant). Rydym hefyd wedi cynhyrchu crys-T a phatsh i gyd-fynd â’r maniffesto.

Ymaelodwch â ni

Ymaelodwch â’r Gymdeithas i wneud gwahaniaeth i’r Gymraeg, nawr. Gallwch ymaelodi am gyn lleied â £1 y mis.

Ymaelodi