YMLAEN AT Y GYMRU RYDD, WERDD, GYMRAEG: PENWYTHNOS PRESWYL CYMDEITHAS YR IAITH
31 Mawrth-2 Ebrill 2023
Byncws Fferm Morfa, Llanrhystud
Mae’r Gymdeithas yn trefnu penwythnos o drafod a chymdeithasu o 6.00, nos Wener, 31 Mawrth i amser cinio, dydd Sul, 2 Ebrill eleni.
Bydd trafodaethau amrywiol yn digwydd ar y nos Wener a’r bore Sul yn y Byncws, ond byddwn yn symud i Neuadd Llanrhystud ar y dydd Sadwrn ar gyfer digwyddiad agored o dan y teitl ‘Grym, Gweithredu, Gobaith: diwrnod o ddigwyddiadau gan Gymdeithas yr Iaith sy’n edrych ymlaen at y Gymru Rydd Werdd Gymraeg’ ac yn cynnwys sesiynau ar:
- maniffesto’r Gymdeithas ac ymateb i’r Cyfrifiad
- protestio: gwybod eich hawliau
- gwerthuso’n hawliau iaith a thrafod camau nesaf ein hymgyrchu
Dyma gyfle arbennig i gyfrannu at waith y Gymdeithas a thrafod sut mae symud ymlaen yn dilyn canlyniadau’r Cyfrifiad diweddar. Cyfle hefyd i gymdeithasu a ddod i adnabod eich cyd-ymgyrchwyr yn well.
Cynigir y penwythnos i aelodau’r Gymdeithas am bris gostyngol: £20 am y penwythnos cyfan (croesawn unrhyw gyfraniadau ychwanegol yn ôl eich gallu). Mae’r pris yn cynnwys gwely a brecwast – byddwch chi’n gyfrifol am bob pryd arall. Nid ydym am rwystro unrhyw aelod rhag fynychu’r penwythnos, felly os nad ydych yn gallu fforddio’r swm hwn, mae croeso i chi fynychu am ddim. Mae croeso hefyd i chi fynychu heb aros ond gofynnir i chi dal archebu lle er mwyn i ni wybod faint o bobl i ddisgwyl.
Noder bod lle i hyd at 18 person aros yn y lleoliad, a bydd gofyn i chi rannu ystafell (mae tair ystafell wely gyda thri gwely bync ym mhob un).
Y dyddiad cau ar gyfer archebu lle ar y penwythnos (gyda neu heb lety) yw dydd Iau, 23 Mawrth.
Byddwn yn anfon yr amserlen atoch pan fydd y trefniadau yn derfynol.